Afon Aled
Oddi ar Wicipedia
Mae Afon Aled yn afon fechan yn sir Conwy, gogledd Cymru, sy'n rhedeg i mewn i Afon Elwy.
Mae Afon Aled yn tarddu yn Llyn Aled ar Fynydd Hiraethog ychydig i'r de o bentref Llansannan. Mae'n llifo trwy Llyn Aled Isaf ac yna tua'r gogledd trwy Llansannan a Bryn Rhyd-yr-arian cyn cyfarfod Afon Elwy ychydig i'r dwyrain o bentref Llanfair Talhaearn.
Rheolir llif Afon Aled, a thrwy hynny i raddau Afon Elwy hefyd, gan gronfeydd Llyn Aled a Llyn Aled Isaf.
Yn yr Oesoedd Canol dynodai'r afon y ffin rhwng cymydau Is Aled ac Uwch Aled.