Yr Hob
Oddi ar Wicipedia
Mae'r Hob (Saesneg: Hope) yn bentref bychan yn Sir y Fflint, yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae ganddo boblogaeth o 2,522 (2001).
Gorwedd y pentref tua 4.5 km o'r ffin â Lloegr (Swydd Gaer), ar lannau Afon Alun. Mae'r Hob yn un o grŵp bychan o bentrefi lleol sy'n perthyn yn agos iawn i'w gilydd, yn cynnwys Caergwrle, Abermorddu a Cefn-y-Bedd. Prif dirffurf yr ardal yw Mynydd yr Hob, i'r gorllewin o'r pentref, gyda chwarel arno sydd wedi cau bellach.
Lleolir Ysgol Uwchradd Castell Alun yn y pentref; ceir ysgol gynradd yn ogystal, sef Ysgol Estyn.
Mae cysylltiadau cludiant da yn cysylltu'r Hob a lleoedd fel Wrecsam, Caer a'r Wyddgrug, ac mae Reilffordd y Gororau yn ei gysylltu â Lerpwl i'r gogledd-ddwyrain.
Weithiau cyfeirir at Gastell Caergwrle fel "Castell yr Hob," am ei fod yn gorwedd rhwng y ddau le.
Trefi a phentrefi Sir y Fflint |
Abermorddu | Afon-wen | Babell | Bagillt | Bistre | Brychdyn | Brynffordd | Bwcle | Caergwrle | Caerwys | Carmel | Cefn-y-bedd | Cei Connah | Cilcain | Coed-llai | Chwitffordd | Y Fflint | Ffynnongroyw | Glan-y-don | Gronant | Gwaenysgor | Gwernymynydd | Gwernaffield-y-Waun | Gwesbyr | Helygain | Higher Kinnerton | Yr Hob | Llanasa | Llaneurgain | Llanferres | Llanfynydd | Llannerch-y-môr | Maes-glas | Mancot | Mostyn | Mynydd Isa | Nannerch | Nercwys | Neuadd Llaneurgain | Oakenholt | Pantasaph | Pantymwyn | Penarlâg | Pentre Helygain | Penyffordd | Queensferry | Rhosesmor | Saltney | Sealand | Shotton | Sychdyn | Talacre | Treffynnon | Trelawnyd | Treuddyn | Yr Wyddgrug | Ysgeifiog |