Lerpwl
Oddi ar Wicipedia
Dinas yng ngogledd-orllewin Lloegr yw Lerpwl (Saesneg: Liverpool) ar lannau'r afon Merswy. Crewyd Lerpwl fel dinas gan y brenin seisnig John I yn 1207 gyda dim ond 500 o bobol ac arhosodd yn gymharol fach tan ddechrau'r Chwyldro Diwydiannol. Tyfodd drwy ddatblygu dociau mawr. Un ffynhonell sylweddol o arian oedd y masnach mewn caethweision o'r Affrig. Poblogaeth Lerpwl nawr yw 439,473 (Cyfrifiad 2001).
Heddiw y ddinas yw ardal canalog Glannau Merswy (Saesneg: Merseyside). Yr ardaloedd eraill yw Knowsely, Sefton, St Helens a Cilgwri (Saesneg: Wirral). Mae pobl tu fas i Lannau Merswy yn aml yn defnyddio 'Lerpwl' (mewn ffordd anghywir) i ddisgrifio'r holl ardal.
Adnabyddir poblogaeth Lerpwl fel 'Scousers' ar ôl y cawl cynhenid o'r enw 'scouse' (sy'n debyg i gawl cymreig. Symbol Lerpwl yw aderyn sy'n edrych yn debyg i filidowcar o'r enw Liver Bird (ynghanir fel 'Laifr'). Hen enw Gymraeg ar y ddinas yw Llynlleifiad. Mae rhai yn tybio mae hyn yn cyfeirio at yr aderyn 'Lleifr', hen enw am fildowcar. Os felly, 'Llyn y Bilidowcar' yw enw'r ddinas. Ond mae yna llawer o theoriau eraill am darddiad yr enw - does neb yn siwr o ble y ddaeth.
Roedd yn brifddinas answyddogol i ogledd Cymru am gyfnod maith ac mae llawer o'r boblogaeth presennol o gefndir gymreig. Surodd y berthynas rhwng Cymru a Lerpwl pan foddwyd Capel Celyn a Chwm Tryweryn gan Gorfforaeth Lerpwl ym 1965 er mwyn creu cronfa dŵr i gyflenwi dŵr i'r ddinas. Dwed rhai nad oedd angen boddi'r cwm o gwbl[1].
Mae nofel Marion Eames Hela Cnau yn rhoi hanes dynes ifanc a aeth i weini o ogledd Cymru i Lerpwl.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Diwylliant a Chwaraeon
Mae Lerpwl yn enwog am ddwy tîm bêl-droed, Lerpwl ac Everton.
Lerpwl fydd Dinas Diwylliant Ewrop 2008.
[golygu] Preswylyddion enwog
- William Ewart Gladstone (gwleidydd)
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Lerpwl ym 1884, 1900 a 1929. Am wybodaeth bellach gweler:
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Lerpwl 1884
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Lerpwl 1900
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Lerpwl 1929
[golygu] Cyfeiriadau
[golygu] Dolennau allanol
- (Saesneg) Cyngor y ddinas