Capel Celyn
Oddi ar Wicipedia
Pentref yng Ngwynedd a gafodd ei foddi ym 1965 i greu cronfa ddŵr (Llyn Celyn) ar gyfer trigolion Lerpwl oedd Capel Celyn. Cyn ei foddi yr oedd yno gymdeithas ddiwylliedig Gymraeg, gan gynnwys capel, ysgol, swyddfa bost a deuddeg o ffermydd a thir a oedd yn perthyn i bedair fferm arall; rhyw 800 erw i gyd.
Penderfynodd Corfforaeth Dinas Lerpwl greu argae yng Nghwm Tryweryn yng nghanol y 1950au. Ar 3 Gorffennaf 1957 cafodd mesur a oedd wedi ei noddi gan y gorfforaeth ei ail ddarlleniad yn Nhŷ'r Cyffredin. Roedd y mesur yn caniatáu prynu'r tir yn orfodol. Ni wnaeth un aelod seneddol o Gymru gefnogi'r mesur, ond cafodd gefnogaeth gref oddi wrth Henry Brooke a oedd ymhlith pethau eraill yn gyfrifol am faterion Cymreig, Harold Wilson, Bessie Braddock a Barbara Castle. Ffurfiwyd Pwyllgor Amddiffyn ac ymhlith ei gefnogwyr roedd yr Arglwyddes Megan Lloyd George, T. I. Ellis, Syr Ifan ab Owen Edwards, Gwynfor Evans a'r aelod seneddol lleol T. W. Jones.
Cafwyd tair ymgais i ddifrodi offer oedd yn cael eu defnyddio i adeiladu'r argae, ym 1962 ac ym 1963, a charcharwyd tri.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Watcyn L. Jones, Cofio Capel Celyn (Y Lolfa, 2008)
- Owain Williams, Cysgod Tryweryn (1979; argraffiad newydd, Gwasg Carreg Gwalch, 1995)