Rhosesmor
Oddi ar Wicipedia
Pentref bychan tair milltir i'r gogledd o'r Wyddgrug yn Sir y Fflint, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Rhosesmor. Ceir ynddo swyddfa post, eglwys, tafarn, parc, ysgol gynradd a neuadd pentref. Gorwedd y pentref yn agos i bentrefi Rhydymwyn, Llaneurgain a Helygain. I'r gogledd-orllewin cyfyd llethrau Mynydd Helygain.
Caerfallwch oedd yr hen enw ar y pentref cyn iddo dyfu yn y 19eg ganrif; mae'r enw yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y plwyf newydd a greuwyd y 1870au.
Mae gan y pentref hanes hir o fwyngloddio plwm ac mae'n cynnwys sawl adeilad sydd dros 300 mlynedd oed, yn arbennig yn ardal Wern-y-Gaer o'r pentref. Ceir nifer o dwneli ac ogofau - naturiol neu o waith dyn - dan y ddaear o gwmpas y pentref, sy'n dyst i'r hanes hir o gloddio yn yr ardal, efallai mor gynnar â chyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru.
I'r dwyrain o Rosesmor saif bryngaer Moel-y-Gaer, rhan o Fryniau Clwyd, a godwyd yn Oes yr Haearn.
Trefi a phentrefi Sir y Fflint |
Abermorddu | Afon-wen | Babell | Bagillt | Bistre | Brychdyn | Brynffordd | Bwcle | Caergwrle | Caerwys | Carmel | Cefn-y-bedd | Cei Connah | Cilcain | Coed-llai | Chwitffordd | Y Fflint | Ffynnongroyw | Glan-y-don | Gronant | Gwaenysgor | Gwernymynydd | Gwernaffield-y-Waun | Gwesbyr | Helygain | Higher Kinnerton | Yr Hob | Llanasa | Llaneurgain | Llanferres | Llanfynydd | Llannerch-y-môr | Maes-glas | Mancot | Mostyn | Mynydd Isa | Nannerch | Nercwys | Neuadd Llaneurgain | Oakenholt | Pantasaph | Pantymwyn | Penarlâg | Pentre Helygain | Penyffordd | Queensferry | Rhosesmor | Saltney | Sealand | Shotton | Sychdyn | Talacre | Treffynnon | Trelawnyd | Treuddyn | Yr Wyddgrug | Ysgeifiog |