Telor yr Helyg
Oddi ar Wicipedia
Telor yr Helyg | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Phylloscopus trochilus (Linnaeus, 1758) |
Mae Telor yr Helyg (Phylloscopus trochilus) yn aelod o deulu'r Teloriaid ac yn aderyn cyffredin trwy ogledd a chanolbarth Ewrop ac Asia.
Mae'r Siff-saff yn aderyn mudol sy'n treulio'r gaeaf yn Affrica i'r de o anialwch y Sahara. Mae'n un o'r adar mudol cyntaf i ddechwelyd yn y gwanwyn, ond fel rheol wythnos neu ddwy yn nwyrach na'r Siff-saff.
Adeiledir y nyth mewn coedydd agored gyda thyfiant is ar gyfer nythu ynddo neu dyfiant isel gyda choed yma ac acw. Fel rheol mae'n nythu mewn llwyn. Pryfed yw ei brif fwyd, ac mae'n eu dal ym mrigau'r coed.
Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng Telor yr Helyg a rhai aelodau eraill o'r genws Phylloscopus, er enghraifft y Siff-saff. Mae tua 11-12 cm o hyd, yn wyrdd-frown ar y cefn a bron yn wyn oddi tano. Mae'r coesau yn olau, lliw pinc fel rheol, yn wahanol i'r Siff-saff sydd a choesau tywyll. Mae adenydd y Siff-saff yn fyrrach na rhai Telor yr Helyg hefyd. Y gân yw'r ffordd hawddaf i'w gwahaniaethu; mae cân Telor yr Helyg yn fath o chwiban sy'n gostwng tua'r diwedd, tra mae cân y Siff-saff fel ei enw - "siff-saff" yn cael ei ail-adrodd dro ar ôl tro.