Siff-saff
Oddi ar Wicipedia
Siff-saff | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Phylloscopus collybita (Vieillot, 1817) |
Mae'r Siff-saff (Phylloscopus collybita) yn aelod o deulu'r Teloriaid ac yn aderyn cyffredin trwy ogledd a chanolbarth Ewrop ac Asia.
Mae'r Siff-saff yn aderyn mudol fel rheol, ond nid yw'n symud cyn belled i'r de a'r rhan fwyaf o'r teloriaid eraill, ac mewn rhai rhannau o orllewin Ewrop mae nifer fychan o adar yn aros trwy'r flwyddyn.
Adeiledir y nyth mewn coedydd agored gyda thyfiant is ar gyfer nythu ynddo. Fel rheol mae'n nythu mewn llwyn, ac yn dodwy 4 - 7 wy. Pryfed yw ei brif fwyd, ac mae'n eu dal ym mrigau'r coed.
Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng y Siff-saff a rhai aelodau eraill o'r genws Phylloscopus, er enghraifft Telor yr Helyg. Mae tua 10-12 cm o hyd, yn wyrdd-frown ar y cefn a bron yn wyn oddi tano. Mae'r coesau yn dywyll, yn wahanol i Delor yr Helyg sydd a choesau llawer goleuach, ac mae adenydd y Siff-saff yn fyrrach. Y gân yw'r ffordd hawddaf i'w gwahaniaethu; mae cân y Siff-saff fel ei enw - "siff-saff" yn cael ei ail-adrodd dro ar ôl tro.
Ambell dro ystyrir yr is-rywogaeth a geir yn Siberia, Phylloscopus (collybita) tristis yn rywogaeth lawn. Yn y rhan fwyaf o Ewrop ceir Phylloscopus collybita collybita ond yn Llychlyn a gogledd Rwsia ceir Phylloscopus collybita abietinus.
Mae'r Siff-saff yn aderyn cyffredin yng Nghymru, efallai y mwyaf adnabyddus o'r teloriaid. Mae ymhlith y cyntaf o'r adar mudol i ddychwelyd yn y gwanwyn, ac mae nifer fychan ond cynyddol o adar yn treulio'r gaeaf yma.