Tegucigalpa
Oddi ar Wicipedia
Tegucigalpa (Tegus ar lafar) yw prifddinas a dinas ail fwyaf Honduras yng Nghanolbarth America. Tegucigalpa hefyd yw prifddinas talaith Francisco Morazán yn y wlad honno. Mae'r ddinas yn gorwedd 3,250 troedfedd (990 m) i fyny yn y bryniau ac mae ganddi boblogaeth o tua 894,000 o bobl (2006). Sefydlwyd y ddinas gan y Sbaenwyr yn 1578.