Canolbarth America
Oddi ar Wicipedia
Mae Canolbarth America yn rhanbarth ddaearyddol ar gyfandir yr Amerig sy'n gorwedd rhwng rhan ogleddol Gogledd America a De America. Mae'n ymestyn o orynys Tehuantepec yn ne-orllewin Mexico i ffin ogledd-orllewinol Columbia ac yn cynnwys tua 596,000 km² (230,000 milltir sgwâr) o dir. Mae'r tywydd yn drofaol ac mae'r rhanbarth yn dioddef corwyntoedd cryf weithiau.
Mae Canolbarth America yn cynnwys, o'r gogledd i'r de:
[golygu] Daearyddiaeth
Mae Canolbarth America yn rhanbarth fynyddig. Ceir nifer o losgfynyddoedd, yn cynnwys Tajumulco sy'n codi i 4210m (13,846'). Mae ei hardaloedd arfordirol yn ffrwythlon a thyfir nifer o gnydau, er enghraifft bananas, coffi a coco. Mae'r rhan fwyaf o'r trigolion o dras gymysg Ewropeiaidd a brodorol.
[golygu] Hanes
Cyn ymddangosiad yr Ewropeiaid cyntaf bu rhannau o Ganolbarth America yn gartref i wareiddiaid brodorol hynod, er enhgraifft penrhyn Yucatan. Syrthiodd y tir i feddiant Sbaen (ac eithrio Belize ac ambell fan arall). Yn gynnar yn y 19eg ganrif cafodd gwledydd y rhanbarth annibyniaeth ar Sbaen a ffurfiodd Costa Rica, El Salvador, Guatemala, Honduras a Nicaragua Cynghrair Canolbarth America (neu 'Taleithiau Unedig Canolbarth America') (1823 - 1838). Yn 1960 ffurfiodd y gwledydd hyn Marchnad Gyffredin Canolbarth America.
Belize • Costa Rica • El Salvador • Guatemala • Honduras • Nicaragua • Panamá
Rhanbarthau'r Ddaear | |||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
|
||||||||||||||||||||||||
Gweler hefyd: Cyfandiroedd y Ddaear |