Salvador Dalí
Oddi ar Wicipedia
Arlunydd Catalanaidd oedd Salvador Domingo Felipe Jacinto Dalí i Domènech, markies de Dalí de Pubol (11 Mai 1904 - 23 Ionawr 1989).
Ganed Dalí yn Figueres, tref fechan ger troed y Pyreneau yng Nghatalonia. Cafodd hyfforddiant cynnar gan yr alunydd Ramón Pichet (1872-1925), oedd yn gyfaill i’w dad.Datblygodd ddiddordeb mewn arlunwyr fel El Greco, Francisco Goya, Michelangelo a Diego Velázquez.
Astudiodd ym Madrid o 1921 hyd 1924, a thynnodd sylw oherwydd ei ymddygiad anarferol. Yn 1929 aeth i Paris, lle daeth i adnabod Pablo Picasso ac André Breton a mabwysiadu arddull swrrealaaeth. Bu’n cydweithio a’r gwneuthurwr ffilmiau Luis Buñuel.
Yn 1940 aeth i fyw i’r Unol Daleithiau, lle bu am 25 mlynedd cyn dychwelyd i Sbaen. Ystyrir y cyfnod yma fel ei gyfnod “clasurol”.Bu farw yn Figures yn 1989.