Diego Velázquez
Oddi ar Wicipedia
Arlunydd o Sbaen oedd Diego Rodríguez de Silva y Velázquez (6 Mehefin, 1599 - 6 Awst, 1660). Roedd yn un o arlunwyr pwysicaf ei gyfnod; ei gampwaith yw Las Meninas (1656). Bu'n ddylanwad pwysig ar arlunwyr diweddarach megis Pablo Picasso a Salvador Dalí.
Ganed ef yn Sevilla, Andalusia, Sbaen. Roedd yn fab i Juan Rodríguez de Silva, cyfreithiwr o dras Iddewid-Potiwgeaidd. Astudiodd arlunwaith dan Francisco de Herrera, yna pan oedd tua 12 oed aeth yn brentis i Francisco Pacheco yn Sevilla, lle bu am bum mlynedd. Priododd Juana Pacheco yn 1618; cawsant ddwy ferch.
Aeth i Madrid yn Ebrill 1622, gyda llythyr yn ei gyflwyno i Don Juan de Fonseca, caplan y brenin. Bu farw Rodrigo de Villandrando, prif arlunydd y llys brenhinol, yn Rhagfyr 1622. Cafodd Velázquez ei swydd wedi iddo wneud llun o'r brenin Felipe IV, a chafodd arian i symud ei deulu i Madrid. Bu'n byw yno am y gweddill o'i fywyd, heblaw am flwyddyn o hanner yn byw yn yr Eidal o 1629. Cafodd hyn gryn ddylanwad ar ei arddull. Bu ar ymweliad a'r Eidal eto yn 1649, gan ddychwelyd yn 1651.