Road Records Association
Oddi ar Wicipedia
Corff sy'n gorychwylio recordiau seiclo ar ffyrdd Prydain ydy'r Road Records Association (ond nid mewn rasus confensiynol). Hon yw un o'r cyrff seiclo hynaf yn y byd gan y sefydlwyd yn 1888.
Sefydlir recordiau gan reidwyr gan deithio pellteroedd penodedig (ee: 25, 50 neu 100 milltir), cyfnodau penodedig o amser (12 neu 24 awr), neu rhwng llefydd (ee: Llundain i Brighton ac yn ôl neu Land's End i John o' Groats). Gall reidwyr ddefnyddio beic, treic neu tandem a derbynir recordiau mewn categoriau dynion, merched ac, ar y tandem, timau cymysg.
Gall recordiau a osidir dros bellter penodedig gael eu cylawni ar gyrsiau sy'n mynd syth allan a all fanteisio ar ddisgyniadau yn y tirwedd a gwyntoedd cryf tu-cefn; mae hyn yn wrthwyned i recordiau a osodir mewn treialon amser, confensiynol ble gofynnir i ddechrau a diwedd y ras fod yn gyfagos er mwyn dileu unrhyw fantair gan yr uchod.
[golygu] Hanes Cynnar
O 1890 ymlaen, roedd y National Cyclists' Union (corff a sefydlwyd i lywodraethu rasio ym Mhrydain) wedi gwahardd rasio beic ar y ffyrdd agored ond gwnaethwyd rhai eithriadau, torri recordiau i ddechrau ac yna treialon amser.
Galwodd llywydd Clwb Seiclo North Road, A J Wilson, gyfarfod yn 1888 ac yno sefydlwyd y Road Records Association gyda'r pwrpas o ardystio honiadau seiclwyr gwrywaidd ar y ffordd, gan osod safonnau ar gyfer yr amseru a dilysu'r recordiau. Sefydlwyd y Women's Road Record Association yn 1934, a cyfunwyd hwn gyda'r RRA yn 1989.
Roedd Frederick Thomas Bidlake yn dorrwr recordiau proliffig yn ystod yr 1880au ac yn ddiweddarach daeth yn geidwad amser, fel aelod o bwyllgor yr RAA, ef oedd y llywydd o o 1924 hyd ei farwolaeth yn 1933.
[golygu] Recordiau
Mae'r RRA yn adnabod recordiau ar gyfer:
- 25 Milltir
- 50 Milltir
- 100 Milltir
- 1000 Milltir
- 12 Awr
- 24 Awr
- Land's End i John o' Groats
- Land's End i Lundain
- Llundain i Efrog
- Llundain i Gaeredin
- Efrog i Gaeredin
- Llundain i Lerpwl
- Lerpwl i Gaeredin
- Llundain i Caerdydd
- Llundain i Penfro
- Penfro i Great Yarmouth
- Llundain i Birmingham
- Llundain i Bath ac yn ôl
- Llundain i Portsmouth ac yn ôl
- Llundain i Brighton ac yn ôl
Mae gan yr RRA grwpiau UK rhanbarthol hefyd sy'n canolbwyntio ar dorri recordiau o fewn eu ardaloedd hwy o'r wlad.
[golygu] Dolenni Allanol
- (Saesneg) Road Records Association
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.