Peter Goldsmith, Barwn Goldsmith
Oddi ar Wicipedia
Peter Henry Goldsmith, Baron Goldsmith, CC, QC, sy'n fwy adnabyddus dan ei deitl Yr Arglwydd Goldsmith (ganed 5 Ionawr 1950), yw cyn Twrnai Gwladol Lloegr a Chymru. Mae'n aelod blaenllaw o'r Blaid Lafur. Gwasanaethodd fel Twrnai Gwladol o 11 Mehefin 2001 hyd 27 Mehefin 2007, pan ymddeolodd ar yr un diwrnod â'r Prif Weinidog, Tony Blair, a apwyntiodd Goldsmith yn 2001. Ei olynydd yw Patricia Scotland, Barwnes Scotland o Asthal. Gwasanaethodd yr Arglwydd Goldsmith am dymor hirach nag unrhyw Dwrnai Gwladol Llafur arall erioed. Ar hyn o bryd mae'n gweithio am y cwmni o gyfreithwyr Americanaidd Debevoise & Plimpton fel ei brif gyfreithiwr yn Ewrop.[1]
Ganwyd Peter Goldsmith yn Lerpwl yn 1950, yn fab i rieni Iddewig. Cafodd yrfa ddadleuol fel Twrnai Gwladol dan Tony Blair. Ef a gynghorodd llywodraeth Blair fod Rhyfel Irac yn gyfreithlon. Yn ddiweddar mae wedi arwain think-tank ar hyrwyddo Prydeindod sy'n cefnogi syniad Gordon Brown o gael "Diwrnod Prydeindod" yn y DU.