Oddi ar Wicipedia
Lleoliad Oklahoma yn yr Unol Daleithiau
Mae Oklahoma yn dalaith yn ne canolbarth yr Unol Daleithiau. Mae ei thirwedd yn amrywio, gyda ucheldiroedd yn y gorllewin, iseldiroedd dyffryn Afon Arkansas yn y canol a'r de, a bryniau coediog yn y dwyrain. Ar ôl cael ei archwilio gan y Sbaenwyr, roedd Oklahoma yn rhan o Bryniant Louisiana gan yr Unol Daleithiau yn 1803. Cafodd y rhan fwyaf o'r diriogaeth ei neilltuo ar gyfer yr Indiaid brodorol, ond cafwyd mewnlifiad mawr o Americanwyr o'r dwyrain i gael tir yn rhad ac am ddim ar ôl Rhyfel Cartref America a gwthiwyd y brodorion i nifer o wersyllfeydd ymylol ar ôl cyfres o ryfeloedd. Daeth yn dalaith yn 1907. Dinas Oklahoma yw'r brifddinas.