Oddi ar Wicipedia
Lleoliad Maryland yn yr Unol Daleithiau
Mae Maryland yn dalaith yn nwyrain yr Unol Daleithiau, ar arfordir Cefnfor Iwerydd. Mae'n ymrannu'n ddwy ardal ddaearyddol; gwastadir arfordirol Cefnfor Iwerydd, a ymrennir yn ei thro gan Fae Chesapeake, ac ardal o ucheldiroedd yn y gogledd a'r gorllewin sy'n rhan o Fryniau'r Alleghenies. Roedd Maryland yn un o 13 talaith gwreiddiol yr Unol Daleithiau. Y Saeson oedd yr Ewropeiaid cyntaf i ymsefydlu yno. Fe'i rhoddwyd ganddynt i George Calvert, Baron 1af Baltimore, yn 1632 ac fe'i henwyd yn Maryland ganddo ar ôl ei wraig Henrietta Maria. Yn ddiweddarach roedd yn lloches i Gatholigion yn ffoi erledigaeth yn Lloegr. Annapolis yw'r brifddinas ac mae Baltimore yn borthladd pwysig.