Nerva
Oddi ar Wicipedia
Marcus Cocceius Nerva (8 Tachwedd 30 - 27 Ionawr 98) oedd ymerawdwr Rhufain rhwng 96 a 98.
Yr oedd Nerva yn aelod o deulu bonheddig o ddinas Narnia i'r gogledd o Rufain. Gwasanaethodd fel Conswl gyda Vespasian yn 71 a gyda Domitian yn 90. Pan lofruddiwyd yr ymerawdwr Domitian yn 96 penodwyd Nerva yn ymerawdwr dan y Senedd, dan ddylanwad y blaid oedd wedi cynllwynio yn erbyn Domitian. Rhyddhaodd Nerva lawer o garcharorion Domitian, ac ysgafnhaodd y trethi. Yr oedd Nerva eisoes yn oedrannus a heb fab, felly dewisodd Trajan fel ei olynydd.
Nerva oedd y cyntaf o bedwar ymerawdwr oedd heb blant. Oherwydd hyn, dewisodd pob un ohonynt y person oedd yn ymddangos fel yr olynydd mwyaf addas, a'i fabwysiadu. Roedd y cyfnod yma yn oes aur i Rufain, gyda pob un o'r gwŷr a ddewiswyd yn llywodraethu'n dda ac yn gydwybodol. Roedd gan y pumed ymerawdwr yn y llinach yma, Marcus Aurelius, fab, a daeth yr oes aur i ben.