Harold Abrahams
Oddi ar Wicipedia
Athletwr Seisnig oedd Harold Maurice Abrahams CBE (15 Rhagfyr 1899 – 14 Ionawr 1978). Enillodd fedal aur yn y ras 100 medr yng Ngemau Olympaidd 1924, campwaith a gafodd ei bortreadu yn y ffilm 1981, Chariots of Fire.
[golygu] Bywgraffiad
Ganwyd Abrahams i deulu tlawd ym Medford, yn fab i Lithiwaniwr Iddewig,[1] roedd yn frawd iau i athletwr arall Prydeinig, y neidiwr hir Olympaidd, Syr Sidney Abrahams. Addysgwyd yn Ysgol Bedford, Ysgol Repton ac yng Ngholeg Gonville a Caius, Caergrawnt, cyn hyfforddi fel cyfreithiwr.