Cors Fochno
Oddi ar Wicipedia
Cors yng ngogledd Ceredigion yw Cors Fochno. Saif ar lan ddeheuol aber Afon Dyfi, rhwng yr aber a'r briffordd A487, wedi ei rhannu rhwng cymunedau Y Borth, Genau'r Glyn a Llangynfelyn. Mae'n un o'r ddwy gyforgors fwyaf yng Nghymru; Cors Caron yw'r llall. Llunir cyforgorsydd mewn mannau lle mae dŵr yn casglu oherwydd traeniad gwael. Ffurfir mawn, gan fod diffyg ocsigen yn arafu pydriad y defnyddiau planhigol. Bydd ymgasgliad y mawn yn codi arwyneb y gors uwchben y tir o'i chwmpas i ffurfio llun cromen.
Ffurfia Cors Fochno ran o Warchodfa Natur Dyfi, sydd wedi ei enwi gan UNESCO fel yr unig warchodfa biosffer yng Nghymru. Hyd ganol yr 20fed ganrif roedd y trigolion lleol yn torri mawn o'r gors ar gyfer tanwydd.
Ceir nifer o chwedlau am y gors, yn enwedig y stori am Lyffant Cors Fochno, sy'n un o'r anifeiliaid hynaf. Mae'r gors hefyd yn cael ei chrybwyll yn aml yn y brudiau fel safle brwydr dynghedfennol rhwng y Cymry a'u cynghreiriad Celtaidd a'r Saeson. Mae Evan Isaac yn Coelion Cymru yn rhoi hanes Gwrach Cors Fochno; credid ei bod yn achosi afiechyd oedd yn creu cryndod yn y dioddefwyr. Ymddengys mai malaria oedd yr afiechyd. Dywedir hefyd mai ger ymyl Cors Fochno yr oedd gored Gwyddno Garanhir, lle cafodd Elffin hyd i'r baban Taliesin.
Yn 2004, cafodd yr archaeolegydd Gwilym Hughes hyd i ffordd neu drac wedi ei gwneud o foncyffion coed, yn dyddio o'r Canol Oesoedd cynnar, oedd wedi ei gladdu yn y gors.