Compiègne
Oddi ar Wicipedia
Dinas a sous-préfecture yn département Oise, gogledd Ffrainc, yw Compiègne. Mae'n gorwedd ar lan Afon Oise yn rhanbarth Picardie. Mae ganddi boblogaeth o tua 40,000. Gelwir ei thrigolion yn Compiègnois.
Yn y Rhyfel Can Mlynedd, daliwyd Jeanne d'Arc ger y ddinas gan y Bwrgwyniaid yn 1430 a'i rhoi yn nwylo'r Saeson i sefyll prawf am heresi.
[golygu] Dolen allanol
- (Ffrangeg) Gwefan cyngor dinas Compiègne