Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon
Oddi ar Wicipedia
Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon yw'r gweinidog cabinet yn llywodraeth y DU sydd yn gyfrifol am faterion sy'n ymwneud â Gogledd Iwerddon. Mae'n un o dair swydd o'r math yn y cabinet, gyda ysgrifenyddion gwladol Cymru a'r Alban. Shaun Woodward yw ysgrifennydd gwladol presennol y dalaith, gan olynu Peter Hain. Roedd apwyntiad Hain yn ddadleuol am ei fod yn cyfuno am y tro cyntaf erioed dwy swydd fel ysgrifennydd gwladol y dalaith ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar yr un pryd.
[golygu] Rhestr
- William Whitelaw (24 Mawrth, 1972 - 2 Rhagfyr, 1973)
- Francis Pym (2 Rhagfyr, 1973 - 4 Mawrth, 1974)
- Merlyn Rees (5 Mawrth, 1974 - 10 Medi, 1976)
- Roy Mason (10 Medi, 1976 - 4 Mai, 1979)
- Humphrey Atkins (5 Mai, 1979 - 14 Medi, 1981)
- James Prior (14 Medi, 1981 - 11 Medi, 1984)
- Douglas Hurd (11 Medi, 1984 - 3 Medi, 1985)
- Tom King (3 Medi, 1985 - 24 Gorffennaf, 1989)
- Peter Brooke (24 Gorffennaf, 1989 - 10 Ebrill, 1992)
- Syr Patrick Mayhew (10 Ebrill, 1992 - 2 Mai, 1997)
- Mo Mowlam (3 Mai, 1997 - 11 Hydref, 1999)
- Peter Mandelson (11 Hydref, 1999 - 24 Ionawr, 2001)
- John Reid (25 Ionawr, 2001 - 24 Hydref, 2002)
- Paul Murphy (24 Hydref, 2002 - 6 Mai, 2005)
- Peter Hain (6 Mai, 2005 - 27 Mehefin, 2007)
- Shaun Woodward (28 Mehefin, 2007 - presennol)