See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Yr Ymerodres Matilda - Wicipedia

Yr Ymerodres Matilda

Oddi ar Wicipedia

Yr Ymerodres Matilda (darlun o lawysgrif gyfoes
Yr Ymerodres Matilda (darlun o lawysgrif gyfoes
Gweler hefyd Matilda (gwahaniaethu).

Merch ac etifeddes y brenin Harri II o Loegr oedd Yr Ymerodres Matilda (Ffrangeg, Mahaut; Ffrangeg Normanaidd, Maud; weithiau Maude mewn Saesneg); yn ddiweddarach yn Ymerodres Glân Rufeinig, Cowntes Anjou, ac Arglwyddes y Saeson; Chwefror 110210 Medi 1167). Roedd hi'n wraig i Harri V, Ymerodr Glân Rhufeinig, ac ar ôl hynny yn briod Sieffre V, Cownt Anjou, trwy'r hwn y daeth yn fam Harri II of Loegr.

Matilda oedd y ferch gyntaf i reoli Teyrnas Lloegr ar ôl ymdrech hir yn erbyn y brenin Steffan o Loegr a'i gefnogwyr. Ond golygodd ei methiant i sicrhau ei theyrnasiad mai byr fu ei rheolaeth ddi-wrthwynebiad, rhwng Mai a Thachwedd 1141; mewn canlyniad tueddir i'w hebgor o restrau o frenhinoedd a breninesau Lloegr. Ni chafodd ei choroni ond mabwysiadodd y teitl 'Arglwyddes y Saeson'.

[golygu] Ei hanes

Ganwyd Matilda yn Chwefror (y 7fed neu'r 11eg efallai) 1102 yn ferch i Harri I, brenin Lloegr a'i wraig Matilda o'r Alban. Ar ochr ei mam roedd hi'n wyres i Malcolm III, brenin yr Alban, a'r Santes Margaret o'r Alban, wyres Edmwnd II, brenin Lloegr. Credir iddi gael ei geni yng Nghaerwynt neu efallai yn Berkshire.

Yn 1114, a hithau'n ferch 12 oed, priododd Harri V (Henri V), Ymerodr Glân Rhufeinig. Pan fu farw Harri V ym 1125, dychwelodd Matilda i Loegr a chafodd ei chydnabod yn etifeddes coron Lloegr. Ym 1128, priododd â Sieffre, Cownt Anjou (Geoffroi neu Geoffrey Plantagenet). Ganwyd mab iddi, Henri, a ddaeth yn ddiweddarach yn Harri II, brenin Lloegr.

Ar farwolaeth Harri I ym 1135, cipiodd ei nai Steffan o Blois (Steffan o Loegr) y goron. Ym 1139, hwyliodd Matilda i Loegr gyda'i hanner-frawd Robert, Iarll Caerloyw, i oresgyn teyrnas Lloegr. Llwyddasant i orchfygu Steffan a'i ddal am gyfnod byr, ond tyfodd y gefnogaeth i Steffan ymhlith y barwniaid a bu rhaid i Fatilda ildio'r orsedd ym 1148 a ffoi i'w frawd yn Normandi.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Bradbury, J. (1996) Stephen and Matilda: the Civil War of 1139-1153, Sutton Publishing, ISBN 0-7509-0612-X
  • Chibnall,Marjorie (1991) The Empress Matilda: Queen Consort, Queen Mother, and Lady of the English
  • Pain, Nesta (1978) Empress Matilda: Uncrowned Queen of England
  • Parsons, John Carmi 'Medieval Mothering (New Middle Ages)


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -