Victor Johnson
Oddi ar Wicipedia
Manylion Personol | |
---|---|
Enw Llawn | Victor Louis Johnson |
Dyddiad geni | 10 Mai 1883 |
Dyddiad marw | 23 Mehefin 1951 (68 oed) |
Gwlad | Lloegr Prydain Fawr |
Gwybodaeth Tîm | |
Disgyblaeth | Trac |
Rôl | Reidiwr |
Prif gampau | |
Gemau Olympaidd | |
Golygwyd ddiwethaf ar: | |
17 Rhagfyr 2007 |
Seiclwr trac Seisnig oedd Victor Louis Johnson (10 Mai 1883, Aston Manor, Swydd Warwick[1][2] – 23 Mehefin 1951, Sutton Coldfield[3]), a gystadlodd yng Ngemau Olympaidd 1908, yno enillodd y fedal aur yn y ras 660 llath. Cystadlodd hefyd yn y gystaleuaeth sbrint gan fynd drwodd i'r rownd derfynol, ond ni wobrwywyd unrhyw fedalau gan i'r gystadleuaeth redeg yn hirach na'r cyfyngiad amser.[4]
Yn ystod Cyfrifiad 1901, roedd Johnson yn byw yn 22 Station Road, Erdington, Swydd Warwick, rhestrwyd ei alwedigaeth fel saer coed, roedd ei dad, John T Johnson, yn wneuthurwr beiciau.[1]
[golygu] Ffynonellau
- ↑ 1.0 1.1 Cyfrifiad 1901 - 22 Station Road, Erdington, Swydd Warwick, RG 13/2876, Tud. 3 o 41
- ↑ Mynegai Genedigaethau Lloegr a Chymru, Chwarter Ebrill/Mehefin 1883, Victor Louis Johnson, ardal cofrestru Aston, Cyfrol 6d, Tud. 435
- ↑ Mynegai Marwolaethau Lloegr a Chymru, Chwarter Ebrill/Mehefin 1951, Victor L. Johnson, 68 oed, ardal cofrestru Sutton Coldfield, Cyfrol 9c, Tud. 923
- ↑ Proffil ar databaseolympics.com