See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Tyburn - Wicipedia

Tyburn

Oddi ar Wicipedia

The Idle 'Prentice Executed at Tyburn gan William Hogarth, o'r gyfres Industry and Idleness (1747)
The Idle 'Prentice Executed at Tyburn gan William Hogarth, o'r gyfres Industry and Idleness (1747)

Pentref tu allan i Llundain, yn Swydd Middlesex, sy'n awr yn rhan o ddinas Llundain ei hun, oedd Tyburn. Mae'n enwog fel safle'r crocbren, a ddefnyddid am ganrifoedd fel y prif safle ar gyfer gweinyddu'r gosb eithaf yn ardal Llundain.

Cofnodir y dienyddiad cyntaf yn yn 1196, pan grogwyd William Fitz Osbern, arweinydd terfysg yn erbyn y trethi yn Llundain. Yn 1571, adeiladwyd yr hyn a elwid y "Tyburn Tree", crocben tair onglog. Defnyddiwyd hwn am y tro olaf ar 3 Tachwedd 1783, pan grogwyd lleidr pen ffordd o'r enw John Austin.

Ymhlith y rhai a ddienyddiwyd yna mae Roger Mortimer, Iarll 1af March (1330), Michael An Gof, arweinydd gwrthryfel y Cernywiaid (1497), Perkin Warbeck (1499), Claude Duval, lleidr pen ffordd enwog (1670), Sant Oliver Plunkett, Archesgob Armagh a Jonathan Wild (1725. Dienyddiwyd nifer o Gymry yma, yn cynnwys Rhys Ddu ap Gruffudd, un o ddilynwyr Owain Glyndŵr, yn 1410, yr ysgolhaig William Thomas (1554) a'r merthyron Catholig Sant John Roberts yn 1610 a Philip Powell yn 1646.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -