See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
John Roberts (sant) - Wicipedia

John Roberts (sant)

Oddi ar Wicipedia

Mynach Benedictaidd a merthyr Catholig Cymreig oedd John Roberts (1576 - 10 Rhagfyr 1610).

Ganed ef yn Nhrawsfynydd yn fab i Robert, mab Ellis ap William ap Gruffydd, Rhiwgoch. Cafodd ei fagu fel Protestant, a'i addysgu yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen. Wedi gadael Rhydychen heb gymeryd gradd yn 1598, bu'n astudio'r gyfraith am gyfnod cyn mynd i deithio ar y Cyfandir.

Pam oedd yn ninas Paris, troes yn Gatholig, ac aeth i astudio i Goleg Jesiwitaidd Sant Alban, Valladolid. Wedi bod yno am flwyddyn, ymunodd ag Urdd Sant Bened, a chymerodd yr enw Fra Juan de Mervinia. Oddi yno aeth i Abaty Sant Martin, Santiago de Compostela, lle gwnaeth ei broffes fel mynach tua diwedd 1600. Bu'n astudio yn Salamanca, a chafodd ei ordeinio yn offeiriad yn 1602. Yn Ebrill 1603 aeth i Loegr fel cenhadwr. Daliwyd ef gan yr awdurdodau bedair gwaith, a'i ddedfrdu i alltudiaeth. Yr oedd yn un o brif sefydlwyr Coleg Sant Gregory, Douai yn 1606-7, ac yn brior cyntaf y coleg. Dychwelodd i Loegr eto, a phan ddaliwyd ef am y pumed tro yn 1610, rhoddwyd ef ar brawf am deyrnfradwriaeth, a dienyddiwyd ef yn Tyburn, Llundain ar 10 Rhagfyr.

Ar 25 Hydref 1970, canoneiddiwyd ef gan Pab Pawl VI fel un o Ddeugain Merthyr Lloegr a Chymru i gynrychioli'r holl Gatholigion a ferthyrwyd yn Lloegr a Chymru rhwng 1535 a 1679.

Ieithoedd eraill


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -