See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Tudur ap Gruffudd - Wicipedia

Tudur ap Gruffudd

Oddi ar Wicipedia

Tudur ap Gruffudd neu Tudur ap Gruffudd Fychan (c.1357 - 1405) oedd un o ddau frawd Owain Glyndŵr ac un o gapteiniaid blaenaf y tywysog hwnnw.

Prin yw'r cofnodion penodol amdano. Cafodd ei eni tua'r flwyddyn 1357, dwy neu dair mlynedd ar ôl geni Glyndŵr ei hun, yn fab i Gruffudd Fychan (m. cyn 1370) a'i wraig Elen ferch Tomas ap Llywelyn. Diau iddo gael ei fagu ar aelwyd Sycharth, maenordy y teulu.

Bu Tudur yn gydymaith agos i Glyndŵr o'r cychwyn cyntaf. Cofnodir iddo fynd i'r Alban gyda'i frawd a'r brudiwr Crach Ffinnant yn 1384 pan gawsant eu gwysio gan y brenin Rhisiart II o Loegr i wasanaethu gyda chatrawd o Gymry eraill yng ngarsiwn Berwick. Ymddengys ei fod yno tan 1385. Ymhlith y milwyr yno oedd Henry Percy, Iarll Northumberland, a'i fab Hotspur; dau ŵr a fyddai'n chwarae rhan bwysig yn nes ymlaen yng ngwrthryfel Owain Glyndŵr. Roedd y brodyr gyda'i gilydd yng ngosgordd Iarll Arundel yn 1387 yn ogystal.

Mae'r ail gofnod amdano yn dweud ei fod wrth ochr Glyndŵr pan lawnsiwyd y gwrthryfel ar 16 Medi 1400, yng Nglyndyfrdwy, Meirionnydd, trwy gyhoeddi Glyndŵr yn Dywysog Cymru. Cyfeirir ato fel arglwydd Gwyddelwern.

Er na cheir cyfeiriadau ato yn bersonol, gellir derbyn fod Tudur wedi cymryd rhan mewn llawer o'r brwydro dros y blynyddoedd nesaf a welodd Glyndŵr yn ymestyn ei awdurdod dros rhan helaeth o'r wlad.

Lladdwyd Tudur ym Mrwydr Pwll Melyn, ym mis Mai 1405.

[golygu] Ffynhonnell

  • R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyndŵr (Rhydychen, 1995)


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -