See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Crach Ffinnant - Wicipedia

Crach Ffinnant

Oddi ar Wicipedia

Brudiwr a bardd a gysylltir ag Owain Glyndŵr oedd Crach Ffinnant (fl. 1380au - 1400au).

Enw barddol yw Crach Ffinnant ; ni wyddys ei enw personol. Mae'n enghraifft dda o'r llysenwau difrïol a arferid gan nifer o Gymry'r Oesoedd Canol. Ceir cyfeiriad at 'Y Crach' fel enw bardd anhysbys ac mae'n bosibl mai Crach Ffinnant a olygir. Ceir mwy nag un lle o'r enw Ffinnant, e.e. Pont Ffinnant ger Dinas Mawddwy, ond does dim modd dweud fod Crach Ffinnant yn frodor o'r ardal honno, er ei bod yn bosiblrwydd.

Ychydig o ffeithiau cadarn sydd ar gael amdano. Cofnodir iddo fynd i'r Alban gyda Owain Glyndŵr yn 1384 pan gafodd Glyndŵr a'i frawd Tudur eu gwysio gan Rhisiart II o Loegr i wasanaethu gyda chatrawd o Gymry eraill yng ngarsiwn Berwick. Mae'r ail gofnod amdano yn dweud ei fod wrth ochr Glyndŵr pan lawnsiwyd y gwrthryfel ar 16 Medi 1400, yng Nglyndyfrdwy, Meirionnydd, trwy gyhoeddi Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Mae'n amlwg fod Crach Ffinnant wedi gwasanaethu fel bardd teulu i Glyndŵr ar fwy nag un achlysur, er na cheir testunau ganddo yn y llawysgrifau sydd wedi goroesi. Ymddiddorai Glyndŵr, fel pob Cymro bron, yn y brudiau, sef y daroganau ar gân a thestunau rhyddiaith sy'n ymwneud â daroganu dyfodiad y Mab Darogan i arwain y Cymry i fuddugoliaeth yn erbyn y Saeson. Mae'n rhesymol tybio, felly, fod Crach Ffinnant yn cynghori Glyndŵr ar faterion gwleidyddol a strategol yng nghyd-destun y brudiau (gwyddys fod Glyndŵr wedi ymgynghori â'r brudiwr ac ysgolhaig Hopcyn ap Tomas yn 1404, er enghraifft).

Pan ddathlwyd ymosodiadau Glyndŵr ar Gaernarfon (ar bedwar achlysur, 1401-1404) yn 2004, cymerodd y bardd a cherddor Twm Morys ran Crach Ffinnant mewn pasiant i nodi'r achlysur.[1]

[golygu] Cyfeiriadau

  1. [1]

[golygu] Ffynhonnell

  • R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyndŵr (Rhydychen, 1995)


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -