See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Tim Benjamin - Wicipedia

Tim Benjamin

Oddi ar Wicipedia

Athletwr Cymreig yw Timothy Benjamin (ganwyd 2 Mai 1982, Caerdydd) sy'n arbenigo fel rhedwr 400 medr. Fel glaslanc, hyfforddwyd gan Jock Anderson, a bu'n ymarfer yn yr un grŵp a Christian Malcolm. Symudodd i fyw i Slough lle cafodd ei hyfforddi gan Tony Lester; roedd Marlon Devonish ymysg ei bartneriaid ymarfer yno.

Enillodd nifer o deitlau iau, gan gynnwys ym Mhencampwriaethau Athletau Iau y Byd ym 1999. Yn fuan wedyn, dechreuodd ganolbwyntio ar y ras 400 medr, a dewiswyd ef fel rhan o dim ras gyfnewid ar gyfer Pencampwriaethau Athletau'r Byd yn Edmonton, Canada yn 2001.

Erbyn 2002, roedd wedi sefydlu ei hun fel un o athletwyr gorau Prydain, gan ennill y deitl Prydainig AAA, a rhedeg fel rhan o sgwad llwyddianus Prydain yn y Cwpan Ewropeaidd. Enillodd fedal arian fel aelod o dîm Cymru yn y ras gyfnewid 4x400m yng Ngemau'r Gymanwlad ym Manceinion ym 2002 (gyda Iwan Thomas, Jamie Baulch a Matthew Elias). Roedd y canlyniad yn un dadleuol rhwng yr athletwyr eu hunain yn ogystal a'r swyddogion a oedd yn dyfarnu. Yr un flwyddyn, anillodd fedal arian ym Mhencampwriaethau Athletau Ewropeaidd Odan 23 yng Ngwlad Pŵyl.

Cyrhaeddodd y rownd gyn-derfynnol yng Ngemau Olympaidd 2044 yn Athen. Daeth yn bumed ym Mhencampwriaethau'r Byd ym 2005, a chweched ym Mhencampwriaethau Ewrop 2006. Bu rhaid iddo dynnu allan oherwydd anafiad o Gemau'r Gymanwlad ym Melbourne (2006), lle disgwylwyd iddo fod yn heriwr cryf dros fedal aur.

Ym Mhencampwriaethau Athletau Ewropaidd 2006 yn Gothenburg, enillodd fedal arian yn y rag gyfnewid 4x400m ynghyd â Robert Tobin, Rhys Williams a Graham Hedman, mewn amser o 3:01.63. Fe orffenodd yn chweched yn y rownd derfynol o'r gystadleuaeth unigol.

Yn hwyr yn 2006, datganodd y byddai'n dychwelyd i fyw i Gaerdydd i gael ei hyfforddi gan Colin Jackson, ynghyd a'ri gyd Gymro Rhys Williams a oedd hefyd am symyd yn îol o Loughborough.

Priododd Benjamin a'r athletwraig Natalie Lewis ym mis Tachwedd 2007.

Ieithoedd eraill


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -