Tiger Woods
Oddi ar Wicipedia
Tiger Woods | ||
---|---|---|
Gwybodaeth Bersonol | ||
Enw Llawn | Eldrick Woods | |
Dyddiad Geni | 30 Rhagfyr, 1975 | |
Man Geni | Cypress, UDA | |
Cenedligrwydd | Americanwr | |
Taldra | 1.85m | |
Pwysau | 84cg | |
Llysenw | Tiger | |
Gyrfa | ||
Troi yn Bro | 1996 | |
Taith Gyfoes | Taith PGA | |
Buddugoliaethau Proffesiynnol |
85 | |
Buddugolaethau yn y Prif Bencampwriaethau |
||
Y Meistri | 1997, 2001, 2002, 2005 | |
Pencampwriaeth Agored Unol Daleithiau America |
2000, 2002 | |
Pencampwriaeth Agored Prydain |
2000, 2005, 2006 | |
Pencampwriaeth y PGA | 1999, 2000, 2006, 2007 |
Golffiwr proffesiynnol o'r Unol Daleithiau yw Eldrick "Tiger" Woods (ganed 30 Rhagfyr 1975). Mae ei lwyddiannau yn nhaith y Proffesional Golfers Association yn rhai syfrdanol ac maent wedi'i wneud yn un o golffwyr mwyaf llwyddianus y byd. Ar hyn o bryd, Woods yw'r gorau yn y byd efo'r safle cyntaf ar rhestr swyddogol golffwyr gorau'r byd. Woods fydd yr athletwr cyntaf yn y byd i fod yn filiwnydd wrth ei arian gwobrwyau a'i arnoddau, ac efe oedd yr athletwr i ennill y mwyaf o arian yn 2005 (tua $87 miliwn). Yn 2006, yn 30 mlwyndd oed, enillodd Woods ei unarddegfed a'i ddeuddegfed brif pencampwriaethau. Yn ei yrfa, mae Tiger wedi ennill Pencampwriaeth Agored Unol Daleithiau America, Pencampwriaeth Agored Prydain, Pencampwriaeth y Meistri a Pencampwriaeth y PGA oleiaf dwy waith. Mae Tiger yn cael clôd wrth llawer yn myd golff gan ei fod wedi dod a chydnabyddiaeth o golff i'r ifanc i wylio fwy a chwarae mwy o'r gêm.