Tiberius II
Oddi ar Wicipedia
Ymerawdwr Bysantaidd rhwng 574 a 582 oedd Tiberius II Cystennin, Lladin: Flavius Tiberius Constantinus Augustus (c. 520 - 14 Awst 582).
Dyrchafwyd Tiberius, oedd yn gyfaill i'r ymerawdwr Justinus II, yn gyd-ymerawdwr yn 574 ar gyngor yr ymerodres Sophia pan ddatblygodd yr ymerawdwr afiechyd meddyliol. Bu'n rheoli'r ymerodraeth ar y cyd a hi hyd ar farwolaeth Justinus, pan ddaeth yn ymerawdwr ar ei ben ei hun. Gorchfygwyd y Persiaid yn Armenia gan ei gadfridog Mauricius, a diogelwyd tiriogaethau'r ymerodraeth yn Sbaen a Gogledd Affrica. Ni allodd atal y Slafiaid rhag ymosod ar y Balcanau, gan fod angen y fyddin i amddiffyn y ffîn ddwyreiniol yn erbyn y Persiaid.
Enwodd ei fab-yng-nghyfraith, Mauricius, fel ei olynydd ychydig cyn ei farwolaeth yn 582; roedd sibrydion ei fod wedi ei wenwyno.