Thomas Edward Ellis
Oddi ar Wicipedia
- Am y gwleidydd Llafur ac wedyn SDP, gweler Robert Thomas Ellis.
Yr oedd Thomas Edward Ellis, neu Tom Ellis (16 Chwefror 1859 – 5 Ebrill 1899) yn wleidydd radicalaidd o Gymro ac un o feddylwyr politicaidd mwyaf gwreiddiol a blaenllaw ei ddydd, a aned yng Nghefnddwysarn ger Y Bala, Sir Feirionnydd. Ei fab oedd y llenor T. I. Ellis, a ysgrifennodd ei gofiant ar ôl ei farwolaeth.
Roedd yn fab i Thomas Ellis, ffarmwr o Anghydffurfiwr a ffermai dyddyn yng Nghefnddwysarn, a'i wraig Elizabeth. Cafodd Tom Ellis ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Bala, lle daeth yn gyfaill i O. M. Edwards, ac aeth yn ei flaen i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac yna i'r Coleg Newydd, Rhydychen, lle cafodd radd mewn Hanes.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Y gwleidydd
Yn 1886 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Feirion. Erbyn 1894 Tom Ellis oedd Prif Chwip y blaid yn San Steffan.
Gweithiai'n ddiwyd dros addysg Gymraeg (yn arbennig yr ymdrech i greu ac ehangu Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor), datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, Diwygio'r Tir ac Ymreolaeth i Gymru (hunanlywodraeth). Chwaraeodd ran flaenllaw ym mudiad Cymru Fydd.
Ym mis Medi, 1890, gwnaeth araith enwog yn y Bala yn galw am senedd lawn i Gymru. Gyda'i gyfeillion agos D. R. Daniel a W. J. Parry, datblygodd gysyniad newydd o genedligrwydd Cymreig, wedi'i ysbrydoli gan yr alwad cynyddol am ymreolaeth yn Iwerddon. Yn ôl gweledigaeth Ellis byddai hanes Cymru, ei thraddodiadau, diwylliant a'i hiaith a llenyddiaeth, ynghyd â'r sefydliadau cenedlaethol oedd i ddod, yn ffurfio un uned organig gydag ysbyrd y werin yn ei uno. Mewn hyn o beth gwelai ei hun fel olynydd i'r sosialydd cynnar o Gymro Robert Owen o'r Drenewydd.[1]
Trwy gydol ei oes roedd ei iechyd yn fregus. Torrodd ei farwolaeth gynnar a disymwth o deiffoid tra ar wyliau yn yr Aifft yn 1899 yrfa addawol i'w sir a'i wlad. Fe'i claddwyd yng Nghapel Ddwysarn yn ei bentref genedigol.
Roedd yn anwyl iawn gan y werin a mawr fu'r golled ar ei ôl. Roedd pobl yn meddwl bod Cymru wedi colli ei harweinydd disgleiraf. Saif cofgolofn i Twm Ellis yn y Bala, a godwyd yn fuan wedi ei farwolaeth.
[golygu] Y llenor
Roedd yn ŵr diwylliedig a ymddiddorai'n fawr yn llenyddiaeth ei wlad (golygodd gyfrol o waith Morgan Llwyd). Cyn ei ethol yn AS ysgrifennai'n gyson i'r wasg yng Nghymru ar bynciau diwylliannol a gwleidyddol, er enghraifft i'r Goleuad, y South Wales Daily News, a'r Carnarvon and Denbigh Herald.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Kenneth O. Morgan, Rebirth of a Nation. Wales 1880-1980 (Rhydychen, 1981), tud. 113.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Llyfrau Tom Ellis
- T.E. Ellis, Speeches and Addresses (1912)
[golygu] Llyfrau amdano
- T.I. Ellis, Cofiant Tom Ellis, 2 gyfrol (1944, 1948)
- Neville Masterman, The Forerunner: the Dilemmas of Tom Ellis (1972)
- Owain Ll. Owain, Tom Ellis: Y Gwladgarwr (Caernarfon, d.d.=1915)
Rhagflaenydd: Henry Robertson |
Aelod Seneddol dros Meirion 1886 – 1899 |
Olynydd: Owen Morgan Edwards |