Swydd Antrim
Oddi ar Wicipedia
Un o'r chwe sir sy'n ffurfio Gogledd Iwerddon yw Swydd Antrim (Gwyddeleg: Contae Aontroma, Saesneg: County Antrim). Mae'n rhan o dalaith Wlster. Yn y gogledd a'r dwyrain mae culfor yn ei gwahanu oddi wrth yr Alban, ac yn hanesyddol roedd cysylltiad agos rhwng yr ardal yma a gorllewin yr Alban; roedd y ddwy ochr i'r culfor yn rhan o deyrnas Dál Riata.
Gyda phoblogaeth o tua 566,000, Antim yw'r ail o ran poblogaeth o 32 sir ynys Iwerddon. Yn Swydd Antrim y mae'r rhan fwyaf o ddinas Belffast, gyda'r gweddill ohoni yn Swydd Down. Mae'r Giant's Causeway yn Safle Treftadaeth y Byd, tra mae Bushmills yn enwog am gynhyrchu chwisgi. Ceir gwasanaeth fferi o borthladd Larne i Cairnryan a Troon yn yr Alban a Fleetwood yn Lloger.