Stryd Downing
Oddi ar Wicipedia
Stryd yn Llundain sy'n gartref i Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw Stryd Downing (Saesneg: Downing Street). Lleolir y stryd yn San Steffan ger y Neuadd Wen (Whitehall), cartref Gwasanaeth sifil y Deyrnas Unedig. Yma ceir cartref swyddogol Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn rhif 10 Stryd Downing a chartref Canghellor y Trysorlys drws nesaf yn 11 Stryd Downing. Cafodd y stryd enwog ei henwi ar ôl y gwladweinydd o Sais Syr George Downing (1623-1684). Ar lafar mae'r ymadrodd "Downing Street" bron yn gyfystyr â Llywodraeth y DU.
Credir fod mynediad i rwydwaith mawr o dwneli a siambrau tanddaear yn Styd Downing, ar gyfer y llwyodraeth a phwysigion eraill yn amser argyfwng.
Ar un adeg bu'n bosibl i ddinesyddion cyffredin cael mynediad i'r stryd, ond ers dechrau'r Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth mae cordon o'i chwmpas a chyfyngir yn llym ar yr hawl i brotestio yn y cyffiniau.