See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Stephen Hughes - Wicipedia

Stephen Hughes

Oddi ar Wicipedia

Anghydffurfiwr cynnar a chyhoeddwr Cymreig oedd Stephen Hughes (1622 - 1688).

Ganed ef yng Nghaerfyrddin, yn fab i sidanydd o'r enw John Hughes. Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am ei fywyd cynnar, ond efallai iddo gael ei addysgu yn ysgol ramadeg Caerfyrddin. Daeth yn offeiriad Meidrim yn 1654, a daeth yn bur ddylanwadol pan oedd Oliver Cromwell mewn grym.

Dechreuodd gyhoeddi llyfrau Cymraeg tua 1658. Yn 1659 cyhoeddodd ran gyntaf gwaith barddonol y Ficer Prichard, ac yn fuan wedyn cyhoeddodd yr ail ran. Wedi marwolaeth Cromwell, adferwyd Siarl II i'r orsedd, a bu raid i Hughes adael ei fywoliaeth ym Meidrim. Bu'n pregethu a chadw ysgolion yn Sir Gaerfyrddin, a tua 1670 ail-ddechreuodd gyhoeddi llyfrau Cymraeg, gan ddechrau gyda'r drydedd ran o waith y Ficer Prichard. Yn 1672 cyhoeddodd bedair rhan o waith y Ficer yn un gyfrol, ynghyd a Llyfr Psalmau a Thestament Newydd. Yn Llundain, cyfarfu a Thomas Gouge a Charles Edwards, a bu'n cyfweithio a hwy. Yn 1677 cyhoeddodd Tryssor i'r Cymru a Cyfarwydd-deb i'r Anghyfarwydd. Yn 1677-8 cyhoeddodd argraffiad rhad o'r Beibl, ac yn 1681 argraffiad newydd o waith Ficer Prichard, gan roi iddo'r teitl Canwyll y Cymry. Yn 1688 cyhoeddodd gyfeithiad o waith John Bunyan, Taith y Pererin, wedi ei gyfeithu ganddo ef ei hun a thri arall. Bu farw yn Abertawe yn 1688.


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -