Sophie El Goulli
Oddi ar Wicipedia
Awdures yn yr iaith Ffrangeg o Tunisia yw Sophie El Goulli. Cafodd ei geni yn Sousse. Astudiodd ym Mharis a dychwelodd i Tunisia yn 1956, pan enillodd y wlad ei hannibyniaeth, i ddysgu fel Athrawes Ffrangeg ym Mhrifysgol Tunis.
Mae wedi sgwennu sawl cyfrol o farddoniaeth Ffrangeg, chwedlau i blant, bywgraffiad o Ammar Farhat (un o arwyr y frwydr dros annibyniaeth) a dwy nofel, yn ogystal â chyfrannu i'r wasg, gan ennill sawl gwobr academaidd a phoblogaidd, yn Tunisia ei hun ac yn Ffrainc hefyd. Ei chyfrol ddiweddaraf yw Hashtart[:] à la naissance de Carthage, sy'n adrodd hanes un o lawforwynion y frenhines lled-chwedlonol Elissa, sefydles dinas Carthage.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Cerddi
- Signes
- Vertige solaire
- Lyriques
- Cantate
[golygu] Straeon
- Le joueur d'échecs
- Le soleil et la pluie
- Le roi qui s'ennuyait
[golygu] Nofelau
- Les mystères de Tunis
- Hashtart: à la naissance de Carthage (Tunis, 2004)
[golygu] Bywgraffiad
- Ammar Farhat