Sidon
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn Libanus yw Sidon neu Saïda, (Arabeg صيدا Ṣaydā}}; Ffeniceg]] Ṣydwn, Groeg: Σιδώνα. Saif ger y môr yn ne Libanus, tua 40 km i'r de o Beirut a 40 km i'r gogledd o Tyrus. Gyda poblogaeth o 200,000, hi yw'r drydedd dinas yn Libanus o ran maint.
Mae Sidon yn hen ddinas Ffenicaidd, efallai yr hynaf o ddinasoedd Ffenicia, gyda phobl yn byw yma o 4000 CC ymlaen. Gan wladychwyr o Sidon y sefydlwyd Tyrus, ac yn nes ymlaen bu cystadleuaeth ffyrnig rhwng y ddwy ddinas.
Am gyfnodau bu'r ddinas dan reolaeth yr Aifft, yna'n ddiweddarach yn rhan o Ymerodraeth Persia yna yn rhan o ymerodraeth Alecsander Fawr, brenin Macedon a'r Ymerodraeth Rufeinig. Cafodd Sidon gryn dipyn o ymreolaeth dan y Rhufeiniaid, gyda'r hawl i fathu ei harian ei hun. Dan yr ymerawdwr Elagabalus sefydlwyd colonia Rhufeinig yma gyda'r enw Colonia Aurelia Pia Sidon.
Cipiwyd y ddinas gan yr Arabiaid yn 636. Cipiwyd hi gan y Cristionogion yn 1110 yn ystod y Groesgad Gyntaf a daeth yn ganolfan Arglwyddiaeth Sidon, rhan o Deyrnas Jeriwsalem. Dinistrwyd hi gan y Mongoliaid yn 1260.