Seychelles
Oddi ar Wicipedia
|
|||||
Arwyddair: Finis Coronat Opus | |||||
Anthem: Koste Seselwa | |||||
Prifddinas | Victoria | ||||
Dinas fwyaf | Victoria | ||||
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Creol Seychellois, Ffrangeg, Saesneg | ||||
Llywodraeth | Gweriniaeth | ||||
- Arlywydd | James Michel |
||||
Annibyniaeth - Dyddiad |
oddiwrth y DU 29 Mehefin, 1976 |
||||
Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
455 km² (197eg) |
||||
Poblogaeth - Amcangyfrif 2005 - Dwysedd |
80,654 (199eg) 178/km² (60fed) |
||||
CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $626,000,000 (203ydd) $11,818 (57eg) |
||||
Indecs Datblygiad Dynol (2003) | 0.821 (51af) – uchel | ||||
Arian cyfred | Rupee Seychelles (SCR ) |
||||
Cylchfa amser - Haf |
SCT (UTC+4) SCT (UTC+4) |
||||
Côd ISO y wlad | .sc | ||||
Côd ffôn | +248 |
Ynysoedd a gwlad yng Nghefnfor India yw Seychelles. Y brifddinas yw Victoria, ar y brif ynys Mahé.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
Yn ddaearyddol mae'r Seychelles yn perthyn i gyfandir Affrica, er eu bod yn gorwedd yng Nghefnfor India. Ceir 87 o ynysoedd wedi eu gwasgaru yn y cefnfor i'r gogledd-ddwyrain o ynys Madagascar. Mahé yw'r ynys fwyaf, lle ceir y brifddinas Victoria, ac yno y mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn byw.
[golygu] Hanes
Sefydlwyd gwladfa ar yr ynysoedd, a oedd heb bobl yn byw arnynt cyn hynny, gan Ffrainc yn y 18fed ganrif i fydu sbeis. Cafodd y wladfa ei chipio gan Brydain Fawr yn 1794. Roedd yn diriogaeth ddibynnol ar Mauritius o 1814 tan 1903, pan wnaethpwyd yr ynysoedd yn un o wladfeydd y Goron. Yn 1976 daeth yn weriniaeth annibynnol o fewn y Gymanwlad Brydeinig.
[golygu] Gwleidyddiaeth
Gweriniaeth yw'r Seychelles.
[golygu] Diwylliant
Mae llawer o'r boblogaeth o dras gymysg Ewropeaidd ac Affricanaidd ac mae eu diwylliant yn adlewyrchu hynny, gyda phobl yn siarad Ffrangeg, Saesneg a'r Creol leol.
[golygu] Economi
Mae'r ynysoedd yn dibynnu i raddau helaeth ar dwristiaeth ac yn gyrchfan poblogaidd ar gyfer gwyliau moethus gan bobl o Ewrop.