See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech - Wicipedia

Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech

Oddi ar Wicipedia

Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech (Men of Harlech yn Saesneg) yw un o'r enwocaf o ganeuon Cymraeg. Ysbrydolwyd yr ymdeithgan, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1784, gan ddigwyddiad yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau.

Mae’r geiriau'n sôn am warchae ar Gastell Harlech rhwng 1461 a 1468 yn Rhyfeloedd y Rhosynnau pan ffoes y frenhines Margaret, gwraig Harri VI o Loegr, yno. Roedd Siasbar Tudur, ewythr Harri Tudur, wedi bod yn weithgar yn y gogledd ar ran y Lancastriaid gan gipio Castell Dinbych yn enw Harri VI. Anfonwyd llu mawr o filwyr o siroedd Lloegr a'r Gororau i ogledd Cymru i gipio'r cestyll yn ôl. Daliodd y garsiwn o gefnogwyr y Lancastriaid yn Harlech - y blaid a gefnogwyd gan y mwyafrif llethol o'r Cymry - allan yn erbyn byddin o Iorciaid am wyth mlynedd.

Cyhoeddodd Edward Jones (Bardd y Brenin) y gân yn ei gyfrol Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (1784). Daeth yn boblogaidd iawn yn y 19eg ganrif ac mae'n parhau felly hyd heddiw. Ceir sawl fersiwn o'r gân ar yr un alaw adnabyddus, yn Gymraeg a Saesneg. Ysgrifenwyd un fersiwn gan John Jones (Talhaiarn) ('Henffych well i wlad fy nghalon') ac un arall, sy'n fwy cyfarwydd heddiw, gan Ceiriog ('Wele goelcerth wen yn fflamio'). Cafwyd fersiwn Saesneg gan W. H. Baker ('Men of Harlech').

Un o'r pennodau mwyaf cofiadwy yn y ffilm Zulu yw'r hwnnw pan genir milwyr y South Wales Borderers yr ymdeithgan gyda Stanley Baker yn eu harwain.

Wicitestun
Mae gan Wicitestun testun gwreiddiol:
Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Ieithoedd eraill


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -