See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Sgwrs Categori:Rheilffyrdd Cymru - Wicipedia

Sgwrs Categori:Rheilffyrdd Cymru

Oddi ar Wicipedia

[golygu] 'Leiniau' sydd wedi cau

Mae defnyddiwr newydd wedi cyfieithu erthygl am Lein Amlwch ac es i'w roi mewn categori, ond ar dudalen Categori:Rheilffyrdd Cymru, mae'n ymddangos fel rhestr o reilffyrdd bach presennol Cymru. A ddylid creu is-gategori i linellau/rheilffyrdd sydd wedi cau? Dwi'n gwybod yn iawn sut i wneud hyn fy hun, ond ddim yn siwr ydw i a ddylid gwahaniaethu rhwng 'lein' a rheilffordd + oes gair gwell na lein i'w gael (fel gofynnwyd uchod)?--Ben Bore 11:29, 2 Ebrill 2008 (UTC)

Cwestiwn da. Dwi wedi gadael sylw ar Sgwrs:Lein Amlwch. Anatiomaros 15:19, 2 Ebrill 2008 (UTC)

Ar y mater o 'lein' yn hytrach na 'rheilffordd', tydy Arriva ddim yn gyson iawn (cymharer lein y Gororau gyda Rheilffordd Calon Cymru), ond nid yw eu gwasanaeth Gymraeg yn un heb ei ail, chwaith. Fe fyddwn i'n cynnig y diffiniad technegol isod:

  • Mae rheilffordd yn cyfeirio at lwybr neu rwydwaith rheilffordd sydd yn endyd cyflawn a redir gan un cwmni.
  • Mae lein yn cyfeirio at lwybr rheilffordd sydd yn randdarn o rwydwaith fel yr uchod.

Ond y gwir ydy fod y termau am gael eu defnyddio'n anghyson, ac y byddai'n anodd ceisio gwahaniaethu ar hyn.

O ran is-gategorïau, Fe fyddwn i'n awgrymu fod lle i:

  • Rheilffyrdd Cyhoeddus
  • Rheilffyrdd Treftadaeth
  • Rheilffyrdd Diwydiannol
  • Rheilffyrdd sydd wedi cau

Nid oes rhaid i'r rhain fod yn gyd-anghynhwysol. Ansbaradigedfran 20:51, 6 Ebrill 2008 (UTC)

Diolch am yr ymateb. Dwi dal heb fod yn siwr iawn am 'lein' yn lle 'rheilffordd' ond mae'r syniadau am enwau categori yn gwneud synnwyr. Dwi'n hapus i gadw 'Lein Amlwch' os dyna di'r enw yn lleol, ond fel ti'n ddeud mae 'na anghysonderau mawr. Dwi ddim yn meddwl fod rhaid i reilffordd gael ei rhedeg gan un cwmni i fod yn "rheilffordd", e.e. mae Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn fwy safonol na "Lein Gogledd Cymru", yn fy marn i. Ond 'ta waeth am hynny - cael yr erthyglau i mewn sy'n cyfri! Anatiomaros 21:12, 6 Ebrill 2008 (UTC)
Diolch i chithau hefyd am y cefnogaeth. Dwi'n cytuno fod "Rheilffordd Arfordir..." yn well na "lein" o bell ffordd, ac y dylai defnyddio "rheilffordd" lle nad ydy arfer yn dweud yn groes. Dwi newydd sylwi ar wahaniaethun (ydy hynny'n air?) arall hefyd sy'n ymddangos yn ddilys yn y Gymraeg. Mae "Lein Amlwch" yn enwi cyrchfan ar y llwybr, tra fod "Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru" yn disgrifio'r ardal lle mae'r rheilffordd. Gallai "Lein Caergybi" ei ddisgrifio hefyd, os yn siarad o gyd-destun Caer (er nad ydw i erioed wedi gweld y term yma mewn defnydd).
Ond mae hyn yn brysur troi i fewn i ymarfer ieithyddol. "Rheilffordd" bob tro gynigwn i, ac eithrio pan "lein" yw'r enw adnabyddedig.Ansbaradigedfran 20:56, 8 Ebrill 2008 (UTC)
Dwi'n cytuno. Mae'n rhy hawdd symud mewn cylchoedd heb gyrraedd y nod! Gyda llaw, os ydych chi am greu'r categorïau uchod, rhowch 'Rheilffyrdd cyhoeddus' (llythyren fach) etc yn lle 'Rheilffyrdd Cyhoeddus', er mwyn cysondeb gyda'r enwau categori eraill. Diolch eto. Anatiomaros 22:02, 8 Ebrill 2008 (UTC)


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -