Rheilffordd Ganolog Chubut
Oddi ar Wicipedia
Rheilffordd Ganolog Chubut (Sbaeneg: Ferrocarril Central del Chubut) oedd y rheilffordd a adeiladwyd gan drigolion y Wladfa yn nhalaith Chubut, Patagonia yn yr Ariannin.
Yn 1884 rhoddodd llywodraeth yr Ariannin hawl i Lewis Jones i adeiladu a rhedeg rheilffordd rhwng rhan isaf Dyffryn Camwy a phorthladd Porth Madryn. Roedd y rheilffordd yn angenrheidiol am nad oedd aber Afon Camwy yn addas i'w defnyddio gan longau o unrhyw faint, tra'r oedd y Bae Newydd ger y Península Valdés yn angorfa ragorol.
Gyda chymorth y peiriannydd Azhabel P. Bell, sefydlodd Lewis Jones gwmni yn Lerpwl i ariannu'r ymgymeriad. Dechreuwyd ar y gwaith yn 1886, gydag offer adeiladu a 400 o ymfudwyr i wethio ar y rheilffordd yn cyrraedd ar 28 Gorffennaf y flwyddyn honno ar y stemar Vesta.
Ar 11 Tachwedd 1888 agorwyd rheilffordd 70 km rhwng Trelew a Phorth Madryn. Ymestynwyd y rheilffordd o Drelew am 50 km arall i Gaiman ar 31 Rhagfyr 1908 ac yna ymlaen i Dolavon ar 12 Hydref 1915. Daeth y cwmni yn eiddo'r wladwriaeth yn 1920. Yn ddiweddarach, ymestynwyd y rheilffordd cyn belled a Dol y Plu. Caewyd hi yn 1961.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Colin M. Lewis, British Railways in Argentina 1857-1914: A Case Study of Foreign Investment, Athlone Press (for the Institute of Latin American Studies, University of London), 1983.