Trelew
Oddi ar Wicipedia
Dinas yng ngogledd-ddwyrain talaith Chubut, yn yr Ariannin yw Trelew. Mae'r ddinas ar yr Afon Camwy (Río Chubut), tua 25 km o'r môr, a 17 km o Rawson, prif-ddinas y dalaith. Enwyd y dref ar ôl Lewis Jones.
Tyfodd y ddinas pan agorwyd Rheilffordd Ganolog Chubut i gysylltu rhan isaf Dyffryn Camwy a phorthladd Porth Madryn. Trelew oedd pen draw'r rheilffordd yn Nyffryn Camwy pan agorwyd hi yn 1888. er iddi gael ei hymestyn yn ddiweddarch.
Mae gan Trelew boblogaeth o bron i 100,000, ond mae'r ddinas yn dioddef diweithdra mawr ers yr argyfwng economaidd ym 2000 ac mae llawer o bobol wedi symud i ffwrdd.
Maes awyr Trelew yw canolbwynt rhwydwaith trafnidiaeth canol Patagonia.
[golygu] Dolenni allanol
- (Sbaeneg) Hanes byr (prosiect ysgol)
- (Sbaeneg) Hafan y ddinas