Rheilffordd Corris
Oddi ar Wicipedia
Mae Rheilffordd Corris yn reilffordd 2 droedfedd 3 modfedd o led yn rhedeg o dref Machynlleth tua'r gogledd i Gorris ac ymlaen i Aberllefenni. Yr oedd canghennau yn gwasanaethu chwareli Corris Uchaf, Aberllefenni, Ratgoed ac ar hyd dyffryn Afon Dulas.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Agorodd y rheilffordd ym 1859 fel "Tramffordd Corris, Machynlleth ac Afon Dyfi", yn cysylltu chwareli llechi Corris, Corris Uchaf ac Aberllefenni ag Afon Dyfi, lle llwythid y llechi i gychod o'r cei yn Nerwenlas a Morben, i'r de-orllewin o Fachynlleth. Ym 1864 newidiwyd yr enw i "Gwmni Rheilffordd Corris" a chaniatawyd trenau ar y rheilffordd. Caewyd y rhan rhwng Machynlleth a Derwenlas pan ddaeth y rheilffordd fawr i gymeryd ei lle. Ym 1878 prynwyd y rheilffordd gan yr Imperial Tramways Company o Lundain a ddechreuodd gario teithwyr a defnyddio trenau stêm. Ym 1887 ymestynnwyd y rheilffordd o Gorris i Aberllefenni.
Gyda chaead chwareli llechi, bu llai o ddefnydd ar y rheilffordd. Rhoddwyd y gorau i gario teithwyr ym 1931 a chaewyd y lein ym 1948.
Ym 1966 ffurfiwyd Cymdeithas Reilffordd Corris, gyda'r bwriad o ail-agor y lein. Yn ystod y 1980au ail-osodwyd y rheilffordd rhwng Cyffordd Maespoeth a Chorris, tua 1.6 km, a dechreuwyd rhedeg trenau. Yn 2002 ail-ddechreuwyd cario teithwyr. Bwriedir ymestyn y rheilffordd i gyfeiriad Machynlleth.
[golygu] Y Ffordd
[golygu] Y Gorsafoedd
- Quay Ward - Glanfa ar afon Dyfi ym Morben, a oedd yn brif bwynt trawslwytho i'r dramffordd wreiddiol a gafodd ei chau yn y 1860au.
- Machynlleth - Y brif bwynt trawslwytho i garreg las a chyfnewidfa gyda Rheilffordd y Cambria.
- Ffridd Gate
- Croesiad Doldderwen
- Lliwdy
- Llwyngwern
- Esgairgeiliog
- Cyffordd Maespoeth - Dim ond i ddefnydd locomotif a cherbyd trên, nid oes gorsaf i'r teithwyr.
- Corris
- Garneddwen
- Aberllefenni