See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Quintus Sertorius - Wicipedia

Quintus Sertorius

Oddi ar Wicipedia

Cadfridog a gwleidydd Rhufeinig oedd Quintus Sertorius (tua 123 CC - 72 CC).

Ganed ef yn Nursia, ac wedi ennill slyw yn Rhufain fel areithydd a chyfreithiwr, dechreuodd yrfa filwrol. Ymladdodd ym Mrwydr Arausio dan Quintus Servilius Caepio, yna gwasanaethodd am rai blynyddoedd dan Gaius Marius, gan ymladd ym Mrwydr Aquae Sextiae pan orchfygodd Marius fyddin enfawr y Teutones. Bu'n gwasanaethu yn Sbaen fel tribwn milwrol, yna yn Gallia Cisalpina fel quaestor. Yn y cyfnod yma cafodd anaf a'i gwnaeth yn ddall yn un llygad.

Wedi dychwelyd i Rufain, ceisiodd ddod yn dribwn, ond gwrthwynebwyd hyn gan Lucius Cornelius Sulla. Wedi i Sulla orfodi Marius i ffoi o Rufain, ac yna gadael ei hun i ymladd yn erbyn Mithridates VI, brenin Pontus, bu ymryson yn Rhufain rhwng yr Optimates, dan y conswl Gnaeus Octavius, a'r Populares, dan y conswl Lucius Cornelius Cinna. Cefnogodd Sertorius Cinna a'r Populares, ac er nad oedd yn edmygydd mawr o Marius, cytunodd iddo gael dychwelyd i Rufain.

Dychwelodd Sulla o'r dwyrain yn 83 CC, a bu raid i Sertorius ffoi i Sbaen. Bu'n ymladd yn erbyn cefnogwyr Sulla yn Sbaen a Gogledd Affrica, lle cipiodd ddinas Tingis (Tangier heddiw). Gyrrodd gadfridog Sulla, Q. Caecilius Metellus Pius, allan o Lusitania. Roedd Sertorius yn gadfridog galluog dros ben, a chanddo ddylanwad mawr dros frodorion Sbaen. Rhoddodd un ohonynt ewig gwyn iddo, a dywedid fod yr ewig yma yn trosglwyddo iddo negeseuon gan y dduwies Diana.

Yn 77 CC daeth Marcus Perperna Vento o Rufain gyda byddin i'w gynorthwyo, a'r un flwyddyn daeth Gnaeus Pompeius Magnus o Rufain i gynorthwyo Caecilius Metellus. Enillodd Sertorius nifer o fuddugoliathau dros Metellus a Pompeius. Gwnaeth gytundeb a môrladron Cilicia a dechreuodd drafodaethau gyda Mithridates VI, brenin Pontus. Fodd bynnag llofruddiwyd ef mewn gwledd gan Perpenna Vento yn [72 CC]]. Hebddo ef, gorchfygwyd Perpenna gan Pompeius a rhoddwyd diwedd ar y rhyfel.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Adrian Goldsworthy In the name of Rome: the men who won the Roman Empire (Phoenix, 2003) ISBN 0-75381-789-6


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -