Plovdiv
Oddi ar Wicipedia
Ail ddinas Bwlgaria yw Plovdiv (Bwlgareg Пловдив, Groeg Philippopolis / Φιλιππούπολη). Poblogaeth y ddinas yw tua 378,000 (amcangyfrif, diwedd 2004), a phoblogaeth rhanbarth Plovdiv yw 715,816 (Cyfrifiad 2001).
Mae pobl yn byw ar safle presennol Plovdiv ers 8000 o flynyddoedd. Yn 342 CC, goresgynwyd y ddinas gan Philip II o Facedon, a'i gwnaeth yn brifddinas ei deyrnas gan ei hailenwi ar ôl ei hun yn Philippopolis (dinas Philip). Roedd Plovdiv, o dan ei enw Rhufeinig Trimontium (dinas y tri bryn), yn ddinas bwysig yng nghyfnod y Rhufeiniaid ac yn brifddinas i'r rhanbarth Rhufeinig Thracia. Yn y 1970au darganfuwyd amffitheatr Rufeinig odidog yno.
[golygu] Gefeilldrefi
|