Parc Cenedlaethol W
Oddi ar Wicipedia
Parc cenedlaethol mawr yng ngorllewin Affrica yw Parc Cenedlaethol W (Ffrangeg: "W" du Niger). Fe'i lleolir o gwmpas ymddoleniad ar Afon Niger o siâp "W". Tra bod y rhan fwyaf o'r parc yn gorwedd yn Niger, mae rhannau ohono yn gorwedd yn Benin a Burkina Faso yn ogystal. Ychydig iawn o bobl sy'n byw yn ei 10,000 km². Creuwyd y parc ar 4 Awst 1954.
Mae'r parc yn adnabyddus am ei famaliaid mawr, gan gynnwys aardvarks, babŵns, byffloau, caracaliaid, cheetahs, eliffantod, afonfeirch, llewpardau, llewod, servalau a warthogs.
Ychwanegwyd y parc at restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd yn 1996.