See also ebooksgratis.com: no banners, no cookies, totally FREE.

CLASSICISTRANIERI HOME PAGE - YOUTUBE CHANNEL
Privacy Policy Cookie Policy Terms and Conditions
Pair Gundestrup - Wicipedia

Pair Gundestrup

Oddi ar Wicipedia

Pair Gundestrup
Pair Gundestrup
Y duw corniog ar un o baneli Pair Gundestrup
Y duw corniog ar un o baneli Pair Gundestrup

Mae Pair Gundestrup yn bair arian cynhanesyddol a ddarganfuwyd ym Mai 1898 mewn cors fawn yng ngogledd Jutland ger tref Gundestrup yn Nenmarc.

Roedd y pair, sy'n cynnwys deuddeg o baneli darluniedig â ffigyrau a motifau mytholegol, wedi'i datgymalu'n ofalus, sy'n awgrymu gweithred ddefosiynol.

Mae oed a tharddiad gwreiddiol y pair yn anhysbys, ond credir ei bod yn dyddio o draean olaf y fileniwm gyntaf C.C. a'i bod o wneuthuriad Celtaidd neu dan ddylanwad Celtaidd. Awgrymir hyn yn neillduol gan helmedau'r rhyfelwyr arfog a'u tariannau a thrympedau rhyfel hir (carnyx).

Ategir Celtigrwrydd y pair gan y duw â thorch am ei wddw a chyrn carw yn tyfu o'i ben; credir ei fod yn cynrychioli'r duw Celtaidd Cernunnos. Mae'n dal torch arall yn ei law dde ac yn gafael yng ngwddw sarff a'r llaw arall. O'i gwmpas mae nifer o anifeiliaid yn cynnwys carw a thwrch.

Ar un o'r paneli eraill darlunir rhes o ryfelwyr arfog meirw sy'n cael eu dodi mewn pair hir silindraidd gan dduw o ryw fath; mae hyn yn atgoffa dyn o'r Pair Dadeni ym mytholeg y Celtiaid, e.e. hanes pair Bendigeidfran yn ail gainc y Mabinogi, sy'n medru atgyfodi rhyfelwyr syrthiedig y Brythoniaid.

Serch hynny, mae rhai o'r lluniau eraill o anifeiliaid megis llewod, gryffoniaid ac eliffantod yn dangos dylanwad dwyreiniol ac yn debyg i'r hyn a welir ar weithiau celf Thraciaidd dan ddylanwad celf Helenistaidd. Oherwydd y cyffelybau hyn mae arbenigwyr yn credu fod y pair wedi'i gwneud yn ardal y Balcanau, efallai tua 200 C.C. - 100 C.C..

Cedwir y pair yn Amgueddfa Genedlaethol Denmarc, yn Copenhagen.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • F. Kaul ac eraill, Thracian Tales on the Gundestrup Cauldron (Amsterdan, 1991)
  • G.S. Olmsted, The Gundestrup Cauldron (Brussels, 1979)


aa - ab - af - ak - als - am - an - ang - ar - arc - as - ast - av - ay - az - ba - bar - bat_smg - bcl - be - be_x_old - bg - bh - bi - bm - bn - bo - bpy - br - bs - bug - bxr - ca - cbk_zam - cdo - ce - ceb - ch - cho - chr - chy - co - cr - crh - cs - csb - cu - cv - cy - da - de - diq - dsb - dv - dz - ee - el - eml - en - eo - es - et - eu - ext - fa - ff - fi - fiu_vro - fj - fo - fr - frp - fur - fy - ga - gan - gd - gl - glk - gn - got - gu - gv - ha - hak - haw - he - hi - hif - ho - hr - hsb - ht - hu - hy - hz - ia - id - ie - ig - ii - ik - ilo - io - is - it - iu - ja - jbo - jv - ka - kaa - kab - kg - ki - kj - kk - kl - km - kn - ko - kr - ks - ksh - ku - kv - kw - ky - la - lad - lb - lbe - lg - li - lij - lmo - ln - lo - lt - lv - map_bms - mdf - mg - mh - mi - mk - ml - mn - mo - mr - mt - mus - my - myv - mzn - na - nah - nap - nds - nds_nl - ne - new - ng - nl - nn - no - nov - nrm - nv - ny - oc - om - or - os - pa - pag - pam - pap - pdc - pi - pih - pl - pms - ps - pt - qu - quality - rm - rmy - rn - ro - roa_rup - roa_tara - ru - rw - sa - sah - sc - scn - sco - sd - se - sg - sh - si - simple - sk - sl - sm - sn - so - sr - srn - ss - st - stq - su - sv - sw - szl - ta - te - tet - tg - th - ti - tk - tl - tlh - tn - to - tpi - tr - ts - tt - tum - tw - ty - udm - ug - uk - ur - uz - ve - vec - vi - vls - vo - wa - war - wo - wuu - xal - xh - yi - yo - za - zea - zh - zh_classical - zh_min_nan - zh_yue - zu -