Organ (offeryn cerdd)
Oddi ar Wicipedia
Offeryn allweddell yw'r organ. Fel arfer, mae ganddo sawl allweddell neu lawfwrdd, ynghyd ag allweddell i'r traed. Mae'n cynhyrchu sain trwy yrru aer trwy nifer o bibennau. Yn ôl traddodiad, fe ddyfeiswyd yr organ neu hydrawlis cyntaf gan Ctesibius o Alecsandria yn y drydedd ganrif cyn Crist.