Nolton a'r Garn
Oddi ar Wicipedia
Cymuned yn ne Sir Benfro yw Nolton a'r Garn (Saesneg: Nolton and Roch). Saif ger yr arfordir ger Bae Sain Ffraid, i'r gogledd-orllewin o Hwlffordd.
Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Nolton, Nolton Haven, Y Garn, Druidston, Cuffern a Simpson. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 746.