Moel Famau
Oddi ar Wicipedia
Moel Famau Bryniau Clwyd |
|
---|---|
Llun | Copa Moel Famau |
Uchder | 555m |
Gwlad | Cymru |
Bryn ar y ffin rhwng Sir Ddinbych a Sir Fflint yw Moel Famau; mae'r ffin rhwng y ddwy sir yn mynd dros y copa. Y bryn yma yw copa uchaf Bryniau Clwyd. Mae'n ganolbwynt Parc Gwledig Moel Famau.
Ar y copa ceir Tŵr y Jiwbili, a adeiladwyd yn 1818 i ddathlu jiwbili y brenin Sior III. Chwalwyd y rhan uchaf o'r tŵr gan storm fawr yn 1862. Ar ddiwrnod clir gellir gweld Ynys Manaw a rhan helaeth o ogledd-orllewin Lloegr cyn belled a Cumbria o'r copa.
[golygu] Cysylltiad allanol
- Golygfa banorama o'r copa