Merthyr Mawr
Oddi ar Wicipedia
Pentref ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, de Cymru, yw Merthyr Mawr. Fe'i lleolir rhai milltiroedd i'r de o dref Pen-y-bont ar Ogwr, ar lan ogleddol Afon Ogwr.
Ystyr y gair merthyr yn yr enw yw 'eglwys (ar feddrod sant)'.
Gerllaw'r pentref ceir Tywyn Merthyr Mawr, lle saethwyd rhai golygfeydd i'r ffilm enwog Lawrence of Arabia.
Yn ogystal mae dau gastell canoloesol, Castell Ogwr a Castell Candleston, yn daith gerdded hawdd i ffwrdd.
Y pentref agosaf yw Ewenni, lle ceir Priordy Ewenni.
Trefi a phentrefi Pen-y-bont ar Ogwr |
Bryncethin | Llangrallo | Maesteg | Melin Ifan Ddu | Merthyr Mawr | Mynydd Cynffig | Pencoed | Pen-y-bont ar Ogwr | Y Pîl | Pontycymer | Porthcawl Tondu |
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.