Loch Ness
Oddi ar Wicipedia
Llyn yn Ucheldiroedd yr Alban i'r de-orllewin o Inverness yw Loch Ness (Gaeleg: Loch Nis).
O ran arwynebedd, Loch Ness yw'r llyn ail-fwyaf yn yr Alban ar ôl Loch Lomond, ond mae'n cynnwys llawer mwy o ddŵr na Loch Lomond gan ei fod yn eithriadol o ddwfn, 230 medr (754 troedfedd) yn y man dyfnaf. Dim ond Loch Morar sy'n ddyfnach yn yr Alban. Mae'n cynnwys mwy o ddŵr na phob llyn yng Nghymru a Lloger gyda'i gilydd.
Dim ond un ynys sydd ar Loch Ness, Cherry Island, yn rhan dde-orllewinol y llyn ger Fort Augustus, a crannog, ynys wedi ei hadeiladu, yw honno.
Daeth Loch Ness yn enwog fel preswylfan dybiedig Anghenfil Loch Ness, a cheir arddangosfa yn Drumnadrochit ar yr hanes.